Croeso i wefan Cyngor Cymuned Llanengan

Croeso i’r wefan ble cewch drosolwg o waith y Cyngor, ynghyd â gwybodaeth leol a mapiau o lwybrau cyhoeddus y cylch sydd dan ei ofal.

Mae 13 o gynghorwyr ar y Cyngor yn cynrychioli Wardiau Aber-soch, Llanengan (Bwlchtocyn, Cilan, Llanengan a Sarn Bach) a Llangïan (Llangïan a Mynytho). Ymysg cyfrifoldebau’r Cyngor mae cynnal llwybrau cyhoeddus y gymuned (65km), caeau chwarae Aber-soch a Mynytho, estyniad Mynwent y Bwlch, toiledau cyhoeddus Lôn Traeth. Os am ddwyn materion i sylw’r Cyngor, dylid cysylltu â’r Clerc.

Y Cyngor

Amaethyddiaeth a thwristiaeth yw asgwrn cefn yr economi leol, sy’n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Llŷn ac Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau. Mae’r ardal yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr wrth iddynt heidio i draethau godidog Borth Fawr, Machros, Tywyn y Fach, Porth Ceiriad a Phorth Neigwl. Cânt hefyd hwylio a cherdded ei llwybrau ag amryw ohonynt yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru â’i olygfeydd godidog o Ynysoedd Sant Tudwal, Bae Tremadog a mynyddoedd Eryri. Mae yma amrywiaeth o siopau a llety, yn ogystal â bwytai a thafarndai sy’n cynnig prydau diddorol a blasus – Indiaidd, Eidalaidd, Mecsicanaidd a Gwlad Tai.

Bro Gymraeg yw Cymuned Llanengan gyda’r iaith a’r diwylliant yn greiddiol i’w hunaniaeth. Felly, dewch i’r ardal i brofi ein diwylliant unigryw, hanes diwylliannol cyffrous a chyfoethog, traethau a golygfeydd ysblennydd. Ni chewch eich siomi.

Y Cyngor

Dim Gwybodaeth ar y funud